America's Job Portal
Ymunwch â’r Egni yn Freedom Leisure – Gwneud yn Dda Teimlo’n Dda!
Mae Freedom Leisure yn ymwneud â theimlo’n dda, pobl grêt, a chael effaith go iawn. Ydyn, mi ydyn ni’n rhedeg cyfleusterau hamdden a diwylliannol, campfeydd a phyllau nofio – ond yn galon i hyn oll, mae ein pobl, sy’n gwneud gwahaniaeth.
Fel un o ymddiriedolaethau hamdden elusennol blaenllaw y DU, rydym yn falch o’n cenhadaeth o Wella Bywydau Drwy Hamdden. Rydyn ni yma i helpu cymunedau i fyw bywydau iachach, hapusach drwy wneud ein canolfannau’n groesawgar, yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb – achos mae pawb yn haeddu teimlo’n dda. Mae ein hegwyddor yn ymwneud â darparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych gyda gwên – bob un dydd. Rydyn ni’n creu lleoedd i bobl deimlo’n gartrefol, wedi eu cefnogi a’u hysbrydoli.
Os ydych chi’n angerddol dros helpu eraill ac yn caru creu profiadau grêt, fe wnewch chi deimlo’n gwbl gartrefol gyda ni. Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr i ddechrau arni – byddwn ni’n ...