America's Job Portal
Mae Corff Llywodraethol Ffederasiwn Cwlwm yn awyddus i benodi Pennaeth brwd, sydd â’r gallu i arwain, ysbrydoli, ac ysgogi cymuned gyfan. Mae’r Pennaeth yn gyfrifol am bob agwedd o waith Ysgol Maes Garmon, gan ddarparu gweledigaeth glir ar gyfer addysg yr ysgol, ynghyd â hybu, hyrwyddo a datblygu ei hethos Cymreig a Chymraeg. Mae’n gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol i’r disgyblion a’r staff, ac am eu morâl a’u lles cyffredinol. Y Pennaeth yw’r swyddog proffesiynol arweiniol yn yr ysgol ac, ynghyd â’r Corff Llywodraethol a’r gymuned ysgol gyfan, mae’n gyfrifol am:
• gyflawni cenhadaeth, creu gweledigaeth a sefydlu cyfeiriad strategol yr ysgol;
• rheoli newid a llunio dyfodol yr ysgol;
• sicrhau llwyddiant a gwelliant i’r ysgol trwy hunanwerthuso trylwyr;
• sicrhau dysgu ac addysgu o’r safon uchaf, a safonau cyrhaeddiad uchel;
• darparu cyfle cyfartal i bawb;
• datblygu, gweithredu, mo...