America's Job Portal
Anogwr Dysgu Chweched Dosbarth
(cytundeb blwyddyn yn y lle cyntaf)
Gradd 5 p11-19 £28,142 -£32,061 pro rata
(pro rata 32.5 awr yr wythnos / 41 wythnos)
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i swydd llawn amser Anogwr Dysgu o fewn tim cynnydd a lles ein Chweched Dosbarth. Dyma gyfle arbennig i weithio gyda’n pobl ifanc i’w cynnal, eu cynghori a’u harwain i ymgartrefu o fewn y Chweched ac i dyfu’n arweinwyr cadarn o fewn cymuned yr ysgol. Prif nod eich swydd yn syml, fydd cefnogi disgyblion Glantaf i aros o fewn addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu hastudiaeth ôl16 ac i’w cefnogi ymhellach drwy gyfnod fel myfyrwyr hŷn o fewn cymuned yr ysgol.
Gan fod dalgylch Glantaf yn adlewyrchiad eang o gymunedau’r ddinas, rydym yn frwd i adeiladu ymhellach i sicrhau bod astudio o fewn y Chweched yn gynrychiolaeth llawn o gyfoeth ac amrywiaeth ein dalgylch. Rydym am sicrhau bod safonau uchel ein darpariaeth yn...